Jeremiah 35

Esiampl y Rechabiaid ffyddlon

1Dyma neges roddodd yr Arglwydd i Jeremeia pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda: 2“Dos i'r gymuned ble mae'r Rechabiaid yn byw, i siarad â nhw a'u gwahodd nhw i deml yr Arglwydd. Dos â nhw i un o'r ystafelloedd ochr, a chynnig gwin iddyn nhw i'w yfed.” 3Felly dyma fi'n mynd i nôl Jaasaneia (mab Jeremeia ac ŵyr Chafatsineia) a'i frodyr a'i feibion, a gweddill y gymuned o Rechabiaid, 4a mynd â nhw i deml yr Arglwydd. Es â nhw i'r ystafell ble roedd disgyblion y proffwyd Chanan fab Igdaleia yn aros – sef drws nesa i'r ystafell ble roedd swyddogion y deml yn aros, ac uwch ben ystafell Maaseia fab Shalwm, prif borthor y deml. 5Dyma fi'n rhoi jygiau o win a chwpanau o'u blaenau nhw, a dweud, “Cymerwch win.” 6Ond dyma nhw'n ateb, “Na. Dŷn ni ddim yn yfed gwin am fod Jonadab fab Rechab
35:6 Jonadab fab Rechab Roedd Jonadab yn byw bron 250 o flynyddoedd ynghynt – gw. 2 Brenhinoedd 10:15-31. Fel y Nasareaid (Numeri 6:1-21) doedd y Rechabiaid ddim yn yfed gwin am fod grawnwin yn symbol o fywyd crefyddol paganaidd y Canaaneaid.
ein cyndad ni wedi dweud wrthon ni am beidio. ‘Dylech chi a'ch plant byth yfed gwin,’ meddai.
7‘Peidiwch adeiladu tai. Peidiwch tyfu cnydau. A peidiwch plannu na phrynu gwinllan. Dych chi i fyw mewn pebyll bob amser. Os gwnewch chi hynny byddwch yn byw am hir yn y wlad lle ydych chi'n crwydro.’ 8Dŷn ni a'n gwragedd a'n plant bob amser wedi gwrando a bod yn ufudd i orchymyn Jonadab fab Rechab ein cyndad. Dŷn ni erioed wedi yfed gwin 9nac adeiladu tai, does gynnon ni ddim gwinllannoedd, caeau na chnydau, 10a dŷn ni bob amser wedi byw mewn pebyll. Dŷn ni wedi gwrando a gwneud yn union beth ddwedodd ein cyndad Jonadab wrthon ni. 11Ond pan ddaeth Nebwchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y wlad, dyma ni'n penderfynu dianc i Jerwsalem oddi wrth fyddin Babilon a byddin Syria
35:11 byddin Syria Roedd cynghrair rhwng Babilon a Syria ar y pryd – gw. 2 Brenhinoedd 24:2
. A dyna pam dŷn ni yma yn Jerwsalem.”

12Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: 13“Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, am i ti ei ddweud wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem: ‘Pam wnewch chi ddim dysgu gwers o hyn, a gwrando ar beth dw i'n ddweud?’ meddai'r Arglwydd. 14‘Roedd Jonadab fab Rechab wedi dweud wrth ei ddisgynyddion am beidio yfed gwin, ac maen nhw wedi gwrando arno. Dŷn nhw erioed wedi yfed gwin. Ond dw i wedi bod yn siarad hefo chi dro ar ôl tro, a dych chi byth yn gwrando arna i. 15Dw i wedi anfon un proffwyd ar ôl y llall i'ch rhybuddio chi, a dweud, “Rhaid i chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud. Rhaid i chi newid eich ffyrdd a peidio addoli a gwasanaethu eilun-dduwiau paganaidd, wedyn cewch fyw yn y wlad rois i i chi a'ch hynafiaid.” Ond wnaethoch chi ddim cymryd unrhyw sylw na gwrando ar beth roeddwn i'n ddweud. 16Mae disgynyddion Jonadab fab Rechab wedi gwneud beth ddwedodd e wrthyn nhw, ond dych chi ddim wedi bod yn ufudd i mi.’ 17Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem hefo pob dinistr dw i wedi ei fygwth. Dw i wedi siarad hefo nhw a dŷn nhw ddim wedi gwrando. Dw i wedi galw arnyn nhw a dŷn nhw ddim wedi ateb.’”

18Yna dyma Jeremeia'n dweud wrth y gymuned o Rechabiaid: “Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gwrando ar orchymyn eich cyndad Jonadab. Dych chi wedi gwneud popeth ddwedodd e wrthych chi ei wneud.’ 19Felly mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud hyn: ‘Bydd un o ddisgynyddion Jonadab fab Rechab yn fy ngwasanaethu i bob amser.’”

Copyright information for CYM